Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Mai 2020
Amser:
14.06 -
15.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6230
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS Mark Reckless AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Cyllid.
2.1 Nodwyd y cofnodion.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ynghylch yr ymateb ariannol i bandemig COVID-19 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Trafododd y Pwyllgor gais Gomisiwn y Senedd ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb.
7.1 Trafododd y Pwyllgor gais Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21, a nododd y cais hwnnw.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am wybodaeth ynghylch goblygiadau ariannol COVID-19 ar ei gyllideb.
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Yn wyneb y cyfyngiadau cymdeithasol presennol oherwydd COVID-19, cytunodd yr Aelodau i ymgymryd â mentrau ymgysylltu ar-lein er mwyn cynnwys rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn y broses o graffu ar y gyllideb ddrafft, yn hytrach na chynnal digwyddiad i randdeiliaid. At hynny, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i ofyn am ddadl a gynigiwyd gan y Pwyllgor cyn toriad yr haf ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Bwriedir i’r hyn sy’n deillio o’r mentrau ymgysylltu ar-lein i lywio'r ddadl.